Skip to main content

Prosiect alt-pop y gyfansoddwraig a'r ffidlwr Angharad Jenkins o Abertawe yw ANGHARAD. Wedi’i disgrifio fel ‘cameleon cerddorol’, mae hi wedi gweithio ar ymylon disgwyliadau ers amser maith.

Mae hi wedi mwynhau gyrfa 15 mlynedd yn teithio’r byd gyda’r band gwerin Cymreig Calan, ond ers troi yn fam mae hi wedi darganfod ei llais. Yn llythrennol llais canu, ond hefyd geiriau a straeon oedd angen eu hadrodd.

Yn 2023, mewn cam dewr tuag at genre hollol newydd, lansiodd ei phrosiect alt-pop. Mae hi’n artist pwerus a di-ofn, ac mae ei cherddoriaeth wedi’i chymharu â phobl fel John Cale, PJ Harvey, a Patti Smith, ac wedi cael ei chwarae ar BBC6 Music, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru.

Mae elfen chwareus, theatraidd i’w cherddoriaeth, sy’n amrywio o disgo i ganeuon mwy arbrofol. Weithiau bydd hi’n llafar-ganu ond mae ganddi’r dawn hefyd i sgwennu alawon telynegol, prydferth a chofiadwy. Y thema gyffredin, sy’n sail i’r gerddoriaeth yw profiad y ferch, mamolaeth a’n perthynas ag amser.

Angharad image